Llyfrgell
  Mae gennym ni lyfrgell o daflenni gwybodaeth sy’n rhoi cyngor i chi ar ystod eang o destunau gofal iechyd. Gallwch fynd i’r llyfrgell drwy glicio ar y pennawd uchod.

 

[ Newid cyfeiriad ]

Os ydych yn newid eich enw, cyfeiriad neu rif ffôn, rhowch wybod i staff y dderbynfa trwy ffonio neu ysgrifennu atom. Fel arall gallwch gwblhau ffurflen newid cyfeiriad/rhif ffôn ar-lein trwy glicio yma neu ffurflen newid enw ar-lein trwy glicio yma. Os ydych yn symud y tu allan i ardal y feddygfa, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi gael meddyg arall yn eich ardal newydd. Ceir cyfarwyddiadau ar yr hyn y bydd rhaid i chi ei wneud yn eich ardal newydd ar gefn eich cerdyn meddygol GIG. 

[ Addysg feddygol ]


Rydym yn dysgu myfyrwyr meddygol ac weithiau mae’n bosibl y gofynnir i chi weld meddyg neu nyrs gyda myfyriwr yn bresennol. Byddwn yn gofyn i chi ymlaen llaw os yw hyn yn dderbyniol a gallwch ofyn i’r myfyriwr beidio â bod yn bresennol os oes gwell gennych gael eich ymgynghoriad yn breifat.


[ Mynediad anabl  ]

Mae mynediad da i bob ystafell ymgynghori ar gyfer pobl anabl.  Mae gan y feddygfa ramp a drysau llydan i alluogi mynediad i gadair olwyn. 

[ Polisi cwynion ]

Rydym yn cymryd cwynion o ddifrif. Os hoffech chi wneud cwyn mewn perthynas â’r feddygfa neu’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig, cysylltwch â Rheolwr y Practis naill ai drwy ffonio, neu os oes gwell gennych, yn ysgrifenedig. Gwneir pob ymdrech i ateb eich pryderon cyn gynted â phosibl.

[ Mynediad i gofnodion meddygol ]

Mae’r practis wedi ei gofrestru ac yn cydymffurfio â Deddf Diogelu Data 1998. Caiff unrhyw gais am fynediad i nodiadau gan gleifion, cynrychiolwyr cleifion neu fwrdd allanol eu delio yn unol â’r Ddeddf. Cysylltwch â Ysgrifenyddes y Practis am wybodaeth bellach.

[ Cyfrinachedd claf ]

Rydym yn parchu eich hawl i breifatrwydd ac yn cadw eich holl wybodaeth iechyd yn gyfrinachol a diogel. Mae’n bwysig bod y GIG yn cadw cofnodion cywir a diweddaredig ynglyn â’ch iechyd a thriniaeth er mwyn i’r rhai sy’n eich trin roi’r gofal gorau posibl i chi.


Gall y wybodaeth hon gael ei defnyddio at ddibenion rheoli ac archwilio.  Fodd bynnag, mae fel arfer dim ond ar gael i rhai sy’n rhan o’ch gofal a bydd yn cael ei defnyddio gan yr unigolion hyn yn unig.  Mae gennych yr hawl i wybod pa wybodaeth sydd gennym amdanoch chi. Os hoffech chi weld eich cofnodion cysylltwch â Rheolwr y Practis.

[ Hawliau a chyfrifoldebau cleifion ]

Rydym yn anelu at drin ein cleifion yn gwrtais ar bob adeg a disgwyliwn i’n cleifion drin ein staff mewn modd parchus tebyg. Eich cyfrifoldeb chi yw cadw eich apwyntiadau, rhoi gwybod i ni am unrhyw salwch blaenorol, meddyginiaeth, derbyniadau i’r ysbyty ac unrhyw fanylion perthnasol arall.

[ Ymddygiad treisgar neu sarhaus ]

Rydym yn cymryd unrhyw ymddygiad bygythiol, sarhaus neu dreisgar yn erbyn ein staff a’n cleifion o ddifrif. Os yw claf yn dreisgar neu’n sarhaus, caiff ei rybuddio i roi terfyn ar yr ymddygiad. Os yw’n parhau â’r ymddygiad, mae’n bosibl y gwnawn ni weithredu ein hawl i’w dileu o’n rhestr cleifion, yn syth os oes rhaid.

[ Defnyddio’r wefan ]

Mae’r wybodaeth feddygol sydd ar y wefan hon ac ar unrhyw wefannau cysylltiedig yn rhoi cyngor cyffredinol yn unig ac NI DDYLID ei defnyddio yn lle cael y cyngor personol y mae cleifion yn ei dderbyn wrth ymgynghori â meddyg teulu. 

[ Eich Bwrdd Iechyd Lleol ]

Mae’r ardal a yn rhan o’r rhanbarth sy’n cael ei gwmpasu gan Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd a Sir Fon, sy’n gyfrifol am sicrhau eich bod chi’n derbyn yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnoch.


.Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd a Ynys Mon