|
Presgripsiynau ailadrodd
|
Sut i gofrestru
Mae gennym restr agored ac rydym yn croesawu ceisiadau cofrestru gan gleifion sy’n byw neu'n symud i ardal y feddygfa.
Gallwch gofrestru trwy ddod â’ch cerdyn meddygol GIG neu lenwi ffurflen sydd ar gael yn y dderbynfa. Byddwn yn cofnodi a yw’n well gennych weld meddyg neu nyrs arbennig. Er mwyn arbed amser gallwch lwytho i lawr ac argraffu ffurflen gofrestru. Bydd angen i chi ei chwblhau mewn ysgrifen a dod â hi i’r feddygfa.
Rydym yn argymell i gleifion newydd gael archwiliad iechyd gyda nyrs practis.
Apwyntiadau
Caiff ein meddygfeydd eu rhedeg drwy system apwyntiadau yn unig. Gellir trefnu apwyntiad i'r feddygfa'r diwrnod cyn neu ar y diwrnod y dymunwch gael eich gweld. Os dymunwch weld meddyg neu nyrs o'ch dewis gallwch wneud apwyntiad bythefnos ymlaen llaw.
Gofynnwn i chi roi gwybod i ni os oes angen i chi ganslo’ch apwyntiad.
Os ydych yn rhy sâl i ddod i’r feddygfa ac yn gofyn am ymweliad cartref, ffoniwch y feddygfa cyn 10.00am. Bydd y derbynydd yn cymeryd manylion gennych ac yna bydd y Nyrs Blaenoriaethu yn eich ffonio'n ol. Mae ymweliadau cartref yn cymryd mwy o amser y meddyg nag ymgynghoriad yn y feddygfa, felly os ydych yn gallu symud dewch i’r feddygfa i gael eich gweld.
Clinigau
| Clinig | Disgrifiad | Amser |
|---|---|---|
| Clinig Pwysedd Gwaed |
Bydd cleifion gyda phwysedd gwaed uchel dair gwaith yn olynol yn cael eu gwahodd yn flynyddol i adolygu eu pwydau gwaed a'u meddyginiaeth |
|
| Clinig Clefyd Siwgwr |
Mae pob claf sydd a'r clefyd siwgwr yn cael gwahoddiad yn awtomatig i'r clinig yn gyfnodol. Mae's rhau sydd yn cael trafferthion gyda rheolaeth y clefyd yn cael eu gweld yn fwy aml. | |
| Brechiadau |
Rydym yn cynal clinig ar gyfer brechiad y ffliw diwedd mis hydref. Holwch yn y dderbynfa. | |
| Asma | Mae cleifion yn cael archwiliad rheolaidd a chyngor gan nyrs y practis ar eu ffordd o fyw, meddyginiaeth a thechneg cymeryd eu anadlwyr. | |
| Clinig Fflebotomi |
Cymerir profion gwaed gan ein fflebotomydd )neu gan nyrs cymunedol i gleifion sydd yn methu dod i'r feddygfa yn unig). Yn y bore'n unig y bydd profion gwaed yn cael eu tynnu a hynny cyn 10.45yb er mwyn sicrhau bod y sampl yn cyrraedd y balordy mewn p | |
| Gwasanaeth Atal Cynhedlu | Rydym yn cynnal nifer o wasanaethau atal cenhedlu megis y bilsen neu frechiad. Trefnwch i gael apwyntiad gyda nyrs y practis. | |
| Clinig Sgrinio Serfigol | Mae pob merch rhwng yr oedran 20 i 64 yn cael eu argymell i gael prawf serfigol. Bydd y profion yma'n cael eu gwneud bob tair blynedd neu'n amlach os bydd angen. | |
| Clinig INR | Mae'r clinigau INR yn cael eu cynnal gan y cymorthwyr gofal iechyd yn unol a chanllawiau NICE. Gyda'r cyfarpar diweddaraf rydym yn gallu rhoi'r canlyniad i'r claf ar y pryd ynghyd a'r apwyntiad am y prawf gwaed nesaf. | |
| Gwyliadwriaeth Iechyd Plant | Mae swyddfa'r ymweliad iechyd wedi ei leoli yn yt Uned Iechyd, Yr Ala, ond mae'r ymwelydd iechyd yn ymweld a'r feddygfa'n rheolaidd. Hwy sydd yn gyfrifol am frechu plant 0 -5 mlwydd oed. | |
| Clinig Brechiadau Teithio | Dylai cleifion sydd yn teithio dramor lenwi ffurflen sydd ar gael yn y dderbynfa cyn gwneud apwyntiad gyda nyrs y practis. Cynghorir cleifion i gael apwyntiad o leiaf bedair wythnos cyn y dyddiad yn maent yn cychwyn teithio. |
Presgripsiynau ailadrodd
Gadewch eich cais am bresgripsiwn ailadrodd yn y dderbynfa neu postiwch ef at y feddygfa. Ticiwch yr eitemau ar adran ochr dde’r ffurflen bresgripsiwn flaenorol. Bydd eich presgripsiwn yn barod i’w gasglu 48 awr yn ddiweddarach. Os yw’n well gennych, gallwn ei bostio’n ôl i chi (bydd rhaid i chi ddarparu amlen gyda chyfeiriad a stamp arni).
Rydym yn awyddus i sicrhau y caiff cleifion sydd â phroblemau meddygol parhaus eu monitro’n rheolaidd. Os yw’r dyddiad ar gyfer eich adolygiad nesaf gyda’r meddyg neu’r nyrs wedi pasio, gofynnir i chi wneud apwyntiad arall.
Tystysgrifau salwch
Yr unig bryd y bydd angen llythyr meddyg arnoch yw pe baech yn methu gweithio am fwy na saith diwrnod calendr. Bydd eich cyflogwr yn rhoi ffurflen hunan-dystysgrif SC2 i chi am gyfnodau o salwch byrrach.
Canlyniadau prawf
Gan fod ein ffonau yn brysur iawn yn y bore, gofynnwn i chi ffonio am ganlyniadau prawf (ee gwaed, d?r, pelydr-x) rhwng 11 a 12.30 bob dydd.Er mwyn cadw cyfrinachedd, rydym yn rhyddhau canlyniadau i’r claf yn unig, oni bai i drefniadau gwahanol gael eu cytuno’n ysgrifenedig.
Gwasanaethau di-GIG
Nid yw’r GIG yn talu am rai o’r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Mae’r rhain yn cynnwys nodyn salwch preifat, ffurflenni yswiriant, ffurflenni canslo gwyliau, adroddiadau meddygol, tystysgrifau addasrwydd i deithio, presgripsiynau preifat, arwyddo pasport a rhai gwasanaethau brechu. Mae'r ffioedd ar gyfer y gwasanaethau hyn, sy’n unol â chanllawiau cymeradwyo cenedlaethol y BMA yn cael eu harddangos yn y feddygfa.